Lle mae technoleg a gwyddoniaeth yn cwrdd â chelfyddyd ac adrodd storïau
Lle sy’n ein hatgoffa o sut y gwnaethom ddatrys heriau a oedd yn ymddangos yn amhosibl yn y gorffennol, a hynny gyda natur benderfynol; lle sy’n ein helpu i ddeall a goresgyn yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Gweledigaeth
“dewch i 'nabod y byd fel lle rhyfeddol. Archwiliwch ein lle ynddo a'ch gallu i'w newid er gwell, a chofleidiwch hynny.”

Cenhadaeth
Xanadoo – ei nod yw mynd i’r afael ar gelf, crefft, gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n cael eu cyfyngu mewn addysg ffurfiol. Dyma gyfle i’w dwyn ynghyd mewn un lle ar raddfa enfawr fel y gellir ysbrydoli pobl, ar ba bynnag gam y maen nhw yn eu bywyd. Cyfle i ailgysylltu a rhyddhau eu creadigrwydd i helpu i oresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu i greu'r byd y maent am ei weld.

Gwerthoedd
Pam nawr a pham cyrchfan i ymwelwyr
Rydym ar groesffordd. Mae'r mudiad amgylcheddol wedi gwneud gwaith rhagorol o ran cyfleu'r heriau sy'n ein hwynebu, a'r effaith ar ein byd naturiol, ond nawr mae angen i ni symud. Mae angen i ni gytuno ar weledigaeth o ran yr hyn y gallai gwych ei olygu, a chreu map i gyrraedd y fan honno. Mae angen i ni weithredu nawr i newid hanes ac mae angen i ni weithredu ar raddfa, yn unigol ac yn systematig.
Mae cyrchfannau ymwelwyr yn hyblyg ac nid ydynt wedi'u cyfyngu gan gwricwlwm penodol, felly y tu ôl i’r adloniant mae yna fwriad go iawn wedi’i ymblethu drwy bob cam o’r daith – addysg, dysgu a datblygu.
Mae profiadau a chyrchfannau ymwelwyr wedi profi eu bod yn ffyrdd o ddenu cynulleidfaoedd ar raddfa fawr . Mae hwyluso cyrchfannau ymwelwyr sy’n pontio’r cenedlaethau a diwylliannau yn gallu meithrin cysylltiadau cryfach â theuluoedd a chymunedau.