
Y Profiad
Syfrdanol Ac Ysbrydoledig
Gall celf roi ystyr, ysgogi emosiynau, ymgysylltu a chyffroi - gall agor y meddwl, herio canfyddiadau a'n helpu i gofleidio syniadau newydd a phosibiliadau yn y dyfodol.
Bydd ymwelwyr yn cychwyn ar eu taith ar lwybr, lle gallant oedi yma ac acw i archwilio celf o bob math, o gerflunwaith, cerddoriaeth, pecynnu, paentio, theatr, cân, meim, i wisgoedd neu ffilm. Enghreifftiau cyfoes a hanesyddol o ragoriaeth sydd wedi ysbrydoli a dyrchafu cenedlaethau, i’n hatgoffa sut y gall y ddynoliaeth greu harddwch a sut y gall celf gyfleu ystyr, cysylltiad ac ychwanegu cyfoeth i'r byd.
Y Maes Chwarae
Cyfle i ailddarganfod ein gallu i ddringo, i neidio, i ddisgyn yn rhydd, datrys problemau, rhyfeddu ac i chwerthin yn uchel mewn gorfoledd.
Yn y maes chwarae nid hwyl ac antur yn unig sy’n mynd â’n bryd. Drwy chwarae gemau rydym yn gobeithio cysylltu pawb â'u gallu i ddatrys problemau creadigol
Oriel O Ddatrysiadau Rhagorol
Lle gellir ail-fyw’r gorffennol er mwyn ail-ddychmygu’r dyfodol.
Gadewch i ni ddysgu o’n hanes nawr. Trwy ddangos y problemau hynny oedd yn ymddangos yn anorchfygol a gafodd eu datrys gan bobl yn y gorffennol, gobeithiwn ysbrydoli pawb i gysylltu â'u dyfeisiwr mewnol.


Galwad I Weithredu
Llywio ein dewisiadau i ddod o hyd i’r mannau melys.
Archwilio model sy’n dangos sut y mae'r byd yn edrych heddiw a sut y gallai edrych yfory; sut y gall camau gweithredu unigol, gael effaith ddramatig ar y cyd, a sicrhau'r newidiadau systematig sydd eu hangen.

Y Byd Yfory
Mae’r Byd Yfory yn gyfuniad dwys, lle Gall y dychymyg fynd dros ben llestri a gallwn deithio i ble bynnag y gall gwyddoniaeth a thechnoleg ein tywys.
Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gyfleu eu syniadau eu hunain, fel y gallwn fynd ati fel torf i greu templed ar gyfer dyfodol gwell.
Bydd Xanadoo yn gweithio gyda Phrifysgolion, Athrofeydd Ymchwil a Sefydliadau Byd-eang i dynnu sylw’r cyhoedd at rhai o'r datblygiadau arloesol, gwych.

Y Man Masnachu
Lle i fwydo’r corff yn ogystal â’r meddwl.
Bydd bwyd a diod gwych i borthi’r ymwelwyr. Bydd cynnyrch hyfryd a defnyddiol ar werth, ochr yn ochr â gweithdai a mannau i gyfnewid nwyddau, sgiliau a syniadau. Bydd man i ddysgu sut i drwsio, atgyweirio ac adnewyddu eiddo sy’n werthfawr.

Gweithdai A Lles
Profiadau traws-ddisgyblaethol, ymdrochol sy'n ymgysylltu’r holl synhwyrau i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach a newid parhaol.
Ioga, myfyrdod, cerameg, bywluniadau, gwau, coginio, gweithdai plymio, clustogwaith, trydan, canu, dawnsio neu ddosbarthiadau perfformio, bydd y cyfan oll ar gael yn y siediau gweithdai, ein dosbarthiadau lles a'n Theatr.

Workshops & Maker Spaces

The Theatre Box

Workshop Sheds

Wellbeing Classes
Campws Xanadoo
Cymryd camau tuag at y gyrfaoedd newydd sydd eu hangen ym myd gwaith y dyfodol.
Lle newydd i gydweithio; campws traws-ddisgyblaethol, traws-sefydliadol i ysgolion, colegau, prifysgolion, cwmnïau, llywodraethau a chyrff anllywodraethol i archwilio, ymchwilio, datblygu ac arddangos y datrysiadau gorau i heriau’r dyfodol a chreu cydbwysedd gwell o ran yr economi a’r amgylchedd.
